Skip to main content

Cynllun Iaith Gymraeg

 

Cyflwyniad

Cymdeithas dai yn y gymuned yw Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd (CCHA), a’r gymdeithas yw un o’r darparwyr tai fforddiadwy mwyaf blaenllaw yng Nghaerdydd.  Rydym yn rheoli dros 3,000 o gartrefi fforddiadwy o safon i’w rhentu a’u prynu, ac maent yn diwallu anghenion amrywiaeth eang o bobl. Rydym yn gweithio yng nghymunedau Adamsdown, Butetown, Bae Caerdydd, Cathays/Y Ddinas, Llanedeyrn, Plasnewydd, Tredelerch, y Sblot, Tremorfa, Trowbridge, Llaneirwg a Phenylan yn y ddinas; rydym wedi bod yn gweithio yng Nghaerdydd am fwy na 40 mlynedd.

 

Ein Gweledigaeth

 Darparu tai a gwasanaethau rhagorol a helpu i greu cymunedau y mae pobl am fyw ynddynt.

 

Ein Gwerthoedd

Caiff ein gwaith ei ategu gan y canlynol:

  • Gonestrwydd
  • Parch
  • Arloesedd
  • Atebolrwydd
  • Tegwch
  • Effeithiolrwydd

 

Mae CCHA yn gymdeithas tai elusennol; rydym wedi ein hachredu gyda dyfarniad Rhagoriaeth Gwasanaeth Cwsmeriad a Buddsoddwyr mewn Pobl (lefel Arian).

 

Ein Hamcanion

Mae gennym bum amcan; sef:

  • Mae tenantiaid yn gwerthfawrogi eu cartrefi a’n gwasanaethau
  • Mae tenantiaid yn teimlo ein bod yn gwrando arnynt a bod eu safbwyntiau yn cyfrif
  • Mae tenantiaid yn falch o’u cymunedau
  • Mae ein tîm yn effeithiol ac yn cael ei werthfawrogi
  • Mae ein busnes yn effeithlon

Mae CCHA wedi mabwysiadu’r egwyddor a sefydlwyd o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 sef y bydd y sefydliad, wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru, yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal.

Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i seilio ar y galw am y Gymraeg ymhlith ein cwsmeriaid, proffil ieithyddol yr ardaloedd rydym yn gweithio ynddynt, priodoldeb i amgylchiadau CCHA ac, felly, yr hyn sy’n rhesymol ymarferol. Rydym wedi cadarnhau hyn drwy ymgynghori â’n cwsmeriaid, ein tîm a thrwy ddefnyddio gwybodaeth gyhoeddus arall sydd ar gael i ni.

Rydym wedi darganfod bod y galw am wasanaethau Cymraeg yn isel ar hyn o bryd yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio. Felly, credwn ei bod yn amhriodol i’r Gymdeithas fabwysiadau polisi cwbl ddwyieithog wrth wneud ei gwaith a darparu gwasanaethau. Fodd bynnag, byddwn yn rhoi gwybod i bob un rydym yn dod i gysylltiad â nhw fel rhan o’n busnes ein bod yn croesawu delio yn Gymraeg a Saesneg, ac yn parchu hawl ein cwsmeriaid i gyfathrebu â ni yn eu dewis iaith. Mae’r cynllun yn amlinellu’r gwasanaethau rydym wedi ymrwymo i’w darparu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym yn bwriadu gweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg er mwyn datblygu’r cynllun hwn ymhellach yn unol â’i chyngor ac unrhyw ofynion Llywodraeth Cymru. Rydym yn bwriadu croesawu’r Gymraeg yn yr ysbryd cywir.

 

Cynllunio gwasanaethau

Polisïau a mentrau newydd

Pan fyddwn yn datblygu polisïau newydd, byddwn yn sicrhau ein bod yn asesu unrhyw ganlyniadau ieithyddol.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod staff a chynghorwyr yn rhan o’r broses llunio polisi ac yn ymwybodol o’r cynllun a chyfrifoldebau’r sefydliad o dan y Ddeddf.

Rydym am ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i bawb rydym yn gweithio gyda nhw. Nid ydym am i ddewis iaith unigolyn amharu ar effeithiolrwydd y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.

Mae CCHA yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus, sefydliadau o’r sector gwirfoddol ac asiantaethau eraill. Rydym yn gweithio ar sawl lefel wrth weithio gydag eraill:

  • Pan mai CCHA yw’r arweinydd strategol ac ariannol mewn partneriaeth, bydd yn ymdrechu i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir yn cydymffurfio â’n cynllun iaith
  • Pan fydd CCHA yn ymuno â phartneriaeth a arweinir gan gorff arall, bydd ein cyfraniad at y bartneriaeth yn cydymffurfio â’n cynllun iaith a byddwn yn annog y partïon eraill i gydymffurfio
  • Pan fydd CCHA yn bartner mewn consortiwm, bydd yn annog y consortiwm i fabwysiadu polisi iaith. Pan fydd yn gweithredu’n gyhoeddus ar ran y consortiwm, bydd yn gweithredu’n unol â’n cynllun iaith

 

Darparu gwasanaethau

Rydym yn ceisio darparu gwasanaeth o safon yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod gennym nifer ddigonol o staff sy’n ddigon cymwys a hyderus i roi cymorth a gwasanaeth i siaradwyr Cymraeg, gan wneud hynny mewn modd sy’n briodol i anghenion ein cwsmeriaid a’r sefydliad.

 

Y cyhoedd sy’n siarad Cymraeg

Cyfathrebu’n ysgrifenedig

Mae CCHA yn croesawu gohebiaeth naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. Byddwn yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid bod modd cyfathrebu â CCHA naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rydym wedi ymrwymo i ymdrin â gohebiaeth yn brydlon ac yn effeithiol. Byddwn yn ymateb o fewn yr un amserlen, waeth beth fo iaith yr ohebiaeth.

Os bydd angen ymateb i ohebiaeth, byddwn yn ymateb yn yr un iaith.

Byddwn yn ymdrechu i gadarnhau dewis iaith pob tenant a sicrhau bod hwn wedi’i nodi’n glir ar ffeiliau unigol, yn ogystal â sefydlu cronfa ddata sy’n cynnwys manylion y rhai sydd am ymwneud â’r sefydliad yn Gymraeg. Os bydd CCHA yn anfon gohebiaeth gyntaf, bydd yr ohebiaeth yn newis iaith y sawl a fydd yn ei derbyn os yw’n hysbys.

Bydd canllawiau ar gydraddoldeb iaith wrth gyfathrebu’n ysgrifenedig yn cael eu rhoi i bob aelod o staff. Os na fydd yn bosibl i’n staff ateb gohebiaeth yn Gymraeg i safon uchel, byddwn yn defnyddio cyfieithwyr proffesiynol.

 

Cyfathrebu ar lafar mewn derbynfeydd cyhoeddus, wyneb yn wyneb a dros y ffôn

Mae CCHA yn croesawu ymholiadau personol yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Bydd canllawiau ar gydraddoldeb iaith wrth gyfathrebu ar lafar yn cael eu rhoi i bob aelod o staff.

Pan fydd galwyr am siarad yn Gymraeg, byddwn yn cyfeirio galwadau at siaradwr Cymraeg priodol, os bydd hyn yn bosibl. Pan fydd dim siaradwyr Cymraeg ar gael, bydd galwyr yn cael y cyfle naill ai i barhau â’r alwad yn Saesneg neu ddisgwyl galwad yn ôl gan siaradwr Cymraeg. Yna, bydd ymateb ysgrifenedig yn Gymraeg yn cael ei anfon.

Pan fydd ymweliadau neu gyfweliadau yn cael eu cynnal yn y cartref, ac mai Cymraeg yw dewis iaith yr ymgeisydd/tenant, byddwn yn ymdrechu i anfon aelod o staff sy’n siarad Cymraeg os bydd hyn yn bosibl ac yn ymarferol.

 

Wyneb cyhoeddus y sefydliad

Hunaniaeth gorfforaethol

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu delwedd gorfforaethol ddwyieithog o’r sefydliad. Bydd enw, cyfeiriad ac unrhyw wybodaeth sylfaenol am CCHA yn ymddangos yn y ddwy iaith ar bob dogfen gyhoeddus e.e. papur pennawd, cyhoeddiadau, arwyddion, cardiau busnes, slipiau cyfarch, tudalennau blaen ffacs.

Wrth wneud cais i Gyngor Caerdydd am ganiatâd i enwi datblygiad newydd, bydd y Gymdeithas yn ymdrechu i awgrymu enwau Cymraeg priodol â chysylltiad lleol, lle bo’n briodol. Pan roddir enw Cymraeg ar ddatblygiadau, bydd yr enw Cymraeg yn cael ei ddefnyddio ar bob arwydd, oni bai bod yr awdurdod lleol/swyddfa bost yn dweud fel arall.

 

Llenyddiaeth argraffedig ac adroddiadau cyhoeddedig

Bydd CCHA yn cyhoeddi ei Hadolygiad Blynyddol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddwn yn sicrhau, drwy arwyddion clir, bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwasanaethau cyfathrebu rydym yn eu darparu.

Efallai y bydd yn briodol cyhoeddi neu ddarparu fersiwn Gymraeg o ddogfennau penodol; pan fo’n rhesymol, bydd hyn yn cael ei wneud. Os bydd galw sylweddol am ddogfennau Cymraeg ar unrhyw adeg yn y dyfodol, bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu.

Wrth i ddogfennau newydd gael eu llunio, byddwn yn asesu’r angen i ddarparu fersiynau Cymraeg ohonynt. Pan fyddwn yn llunio dogfennau Cymraeg, ein dewis bob tro fydd cael fersiynau dwyieithog, yn hytrach na fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân.

 

Cyfarfodydd cyhoeddus

Bydd CCHA fel arfer yn cynnal cyfarfodydd ffurfiol yn Saesneg; fodd bynnag, byddwn yn asesu p’un a oes angen gwasanaethau cyfieithu mewn cysylltiad â materion penodol e.e. byddwn yn ceisio cadarnhau dewis iaith y rhai sy’n dod/cymryd rhan yn y cyfarfod, a rhoi gwasanaethau cyfieithu os bydd digon o angen. Byddwn yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n dod i’r cyfarfod, ymlaen llaw os bydd yn bosibl, p’un a fydd staff sy’n siarad Cymraeg yn bresennol.

 

Rydym yn croesawu cyfarfodydd â’r cyhoedd yn Gymraeg neu Saesneg, ond oherwydd prinder siaradwyr Cymraeg mewn rhai meysydd, ni allwn warantu cyfarfod wyneb yn wyneb yn Gymraeg bob tro. Os na fyddwn yn ateb y galw yn rheolaidd, byddwn yn ystyried cymryd camau megis adleoli staff, rhoi hyfforddiant a recriwtio.

 

www.ccha.org.uk

Mae ein gwefan yn ddwyieithog ac mae’n cynnwys tudalen lanio lle y gallwch ddewis parhau â’ch ymweliad â’r wefan yn Gymraeg neu yn Saesneg. Mae Browse Aloud ar gael hefyd ar y wefan i ddarllen testun yn uchel yn Gymraeg neu Saesneg i’r defnyddiwr, os bydd angen.

 

Arwyddion a hysbysiadau

Bydd pob arwydd newydd a gaiff ei osod y tu allan i adeiladau neu ei atodi i adeiladau CCHA, yn ogystal ag arwyddion y tu mewn i’n hadeiladau, yn ddwyieithog. Os bydd arwyddion Cymraeg a Saesneg ar wahân, bydd yr arwyddion o’r un maint ac yr un mor eglur.

 

Polisïau, ffurflenni a gwybodaeth esboniadol gysylltiedig

Yn Saesneg y bydd ffurflenni a gwybodaeth esboniadol a roddir i denantiaid ac ymgeiswyr fel arfer. Byddwn yn sicrhau, drwy arwyddion clir, bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwasanaethau cyfathrebu rydym yn eu darparu.

Efallai y bydd yn briodol cyhoeddi neu ddarparu fersiwn Gymraeg o ddogfennau penodol; pan fo’n rhesymol, bydd hyn yn cael ei wneud. Os bydd galw sylweddol am ddogfennau Cymraeg ar unrhyw adeg yn y dyfodol, bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu.

 

Hysbysiadau i’r wasg a chynadleddau i’r wasg

Fel arfer, bydd y rhain yn Saesneg. Efallai y caiff ei ystyried yn briodol i gyflwyno hysbysiadau neu ddigwyddiadau yn ddwyieithog; pan fo’n rhesymol, bydd hyn yn cael ei wneud.

 

Hysbysebu

Mae angen ystyried pob ymgyrch hysbysebu a chyhoeddusrwydd yn unigol, gan gofio maint a natur y gynulleidfa darged, amgylchiadau’r ymgyrch, yr amseru, y bri, y galw a gwerth am arian bob tro.

Fel arfer, byddwn yn hysbysebu yn Saesneg. Pan fo’n briodol, byddwn yn sicrhau drwy arwyddion clir bod ein cwsmeriaid yn ymwybodol o’r gwasanaethau cyfathrebu rydym yn eu darparu.

Efallai y bydd yn briodol cyhoeddi neu ddarparu fersiwn Gymraeg o hysbysebion penodol; pan fo’n rhesymol, bydd hyn yn cael ei wneud.

 

Gweithredu a monitro’r cynllun

Staffio a recriwtio

 

Mae CCHA yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau o safon i bawb y mae’n ymwneud â nhw, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ein nod yw sicrhau bod gennym ddigon o staff sy’n gymwys yn y Gymraeg yn y meysydd hynny lle mae angen y sgiliau hyn arnom. Wrth lunio disgrifiadau swydd a manylebau’r person, byddwn yn ystyried yn ofalus unrhyw anghenion posibl ar gyfer unigolyn sy’n gallu ysgrifennu a siarad yn Gymraeg.

Pan fydd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn ofyniad hanfodol o’r swydd, bydd yr hysbyseb yn ddwyieithog a gellir ei rhoi mewn cyhoeddiadau Cymraeg ychwanegol. Bydd gwybodaeth atodol, megis disgrifiadau swydd, ar gael yn Gymraeg ar gyfer swyddi lle y gofynnir am sgiliau Cymraeg.

 

Dysgu Cymraeg yn y gwaith

Mae CCHA wedi ymrwymo i helpu staff i ddysgu Cymraeg lle y gall wneud hynny. Bydd y math o hyfforddiant iaith a gynigir i staff yn briodol i anghenion personol a phroffesiynol pob unigolyn, yn ogystal â gofynion busnes y sefydliad, ond gallai gynnwys:

  • Cyflwyniad cyffredinol i’r iaith i’r rhai sy’n ei dysgu o’r newydd
  • Sesiynau magu hyder i staff sydd â rhywfaint o wybodaeth am yr iaith
  • Cymraeg i staff rheng flaen
  • Cyrsiau uwch i siaradwyr mwy rhugl
  • Gwella rhuglder wrth ysgrifennu yn Gymraeg

 

Aelodau’r Bwrdd

Bydd CCHA yn annog cymysgedd o siaradwyr Cymraeg a Saesneg ar ei Fwrdd Rheoli drwy gynnwys iaith yn adolygiad blynyddol y Bwrdd o sgiliau ei aelodau.  Gall y Bwrdd benderfynu blaenoriaethu siaradwyr Cymraeg wrth recriwtio a chyfethol aelodau newydd.

 

Trefniadau gweinyddol

Mae Bwrdd CCHA wedi cymeradwyo’r ymrwymiadau a’r trefniadau a nodir yn y cynllun hwn; bydd y Cyfarwyddwyr yn cael eu hawdurdodi’n llawn gan y sefydliad i’w weithredu.

Bydd CCHA yn sicrhau bod pawb yn y sefydliad yn gyfarwydd â’r cynllun, bod staff yn gwybod sut y dylid ei weithredu a’u bod yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt.

Bydd cyflwyniad i’r polisi hwn yn rhan o broses sefydlu staff CCHA.

 

Monitro ein Cynllun Iaith Gymraeg

Bydd pob Cyfarwyddwr yn gyfrifol am sicrhau bod staff yn ymwybodol o Gynllun Iaith Gymraeg CCHA a chyfrifoldebau CCHA fel rhan ohono.

Y Prif Weithredwr sy’n gyfrifol ar lefel gorfforaethol am fonitro’r cynllun; fodd bynnag, bydd pob Cyfarwyddwr yn gyfrifol am eu meysydd gweithredol penodol. Bydd adroddiad blynyddol ar y cynllun yn cael ei gyflwyno i Fwrdd y Gymdeithas ac i’r tenantiaid; bydd copi o’r adroddiad yn cael ei anfon at Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd cwynion ysgrifenedig sy’n dod i law gan denantiaid, cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd am nad ydym wedi cydymffurfio â’r cynllun yn cael eu cynnwys yn y broses fonitro. Bydd elfennau eraill o’r system fonitro yn cynnwys:

  • Faint o ohebiaeth Saesneg a Chymraeg sy’n cael ei hateb o fewn yr amserlen darged
  • Nifer a dosbarthiad y siaradwyr Cymraeg yn y sefydliad
  • Nifer yr aelodau o staff sy’n dilyn cyrsiau Cymraeg
  • I ba raddau y mae wyneb cyhoeddus y Gymdeithas yn hollol ddwyieithog; e.e. arwyddion, papur pennawd
  • Nifer y ceisiadau sy’n dod i law am fersiynau Cymraeg o gyhoeddiadau penodol, ffurflenni cais a deunyddiau cyhoeddusrwydd
  • Nifer y tenantiaethau sydd wedi gofyn i CCHA gyfathrebu â nhw yn Gymraeg

 

Datganiad cwynion

Ymdrinnir â chwynion ynghylch y ffordd y mae’r Gymdeithas yn cyflawni ei hymrwymiad o ran gwasanaethau, fel y nodir yn y polisi hwn, yn unol â pholisi a gweithdrefn cwynion safonol y Gymdeithas, a fydd ar gael yn Gymraeg.

Byddwn yn sicrhau bod aelodau o’r cyhoedd sy’n ymwneud â’r Gymdeithas yn gwybod am y cynllun hwn, a byddwn yn sicrhau y caiff ei gyhoeddi mewn lle amlwg ar ein gwefan.

 

Cymdeithas Tai Cymuned Caerdydd: 15 Hydref 2018